Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant
Gwireddu hawliau yng Nghaerdydd

Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yn y DU i gael ei hadnabod fel dinas sy’n dda i blant UNICEF: dinas â phlant a phobl ifanc yn greiddiol iddi, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu gan bawb, lle sy’n wych i gael eich magu.
Rydym yn cydweithio i greu dinas lle gall pob plentyn a pherson ifanc rannu eu llais a chael mewnbwn ar benderfyniadau a wneir fydd yn effeithio arnynt.